tudalen gartref gwyddbwyll.com
pethau elfennol | symud brenin a brenhines | symud marchog ac esgob | symud castell a gwerinwr | cartref

Pethau elfennol
Nod Gwyddbwyll yw i osod Brenin dy wrthwynebydd mewn Siachmat. Ystyr Siachmat yw pan fod y Brenin yn methu osgoi cael ei gipio (neu ei ladd) y symudiad nesaf. Mae Gwyddbwyll yn cael ei chwarae ar fwrdd 64 sgwâr, gyda'r sgwâr cornel dde i bob chwaraewr yn un gwyn - y dywediad "white on the right" yw'r ffordd hawsaf o gofio hyn!

Mae'r darnau'n cael eu gosod ar y bwrdd fel yn y llun isod, gyda'r Frenhines ar ei lliw ei hun - hynny yw Brenhines du ar sgwâr du, Brenhines gwyn ar sgwâr gwyn. Gwyn sy'n symud gyntaf, ac mae'r chwaraewyr yn symud am yn ail tan bod naill ai Siachmat, neu chwaraewr yn ildio, neu'r ddau yn cytuno i gêm gyfartal, neu'r gêm yn gorffen fel Methmat - ond fe ddown at y Methmat eto!

Nawr te, os yw'r bwrdd wedi ei osod yn gywir beth am fynd ati i ddysgu sut mae'r darnau'n symud! >>
pethau elfennol | symud brenin a brenhines | symud marchog ac esgob | symud castell a gwerinwr |